Theatr Soar - Adeiladu Cymuned Greadigol
Mae Theatr Soar yn cynnig llwyfan i gymuned, adnodd i wireddu uchelgais, a gofod i’r amatur a’r proffesiynol hudo cynulleidfa.
Rydym yn cynnig lleoliad am berfformiadau, cynadleddau, hyfforddiant, cyfarfodydd cyhoeddus a mwy. Mae rhaglen gyson o berfformiadau a gweithgareddau cymunedol a phroffesiynol.
I ymuno gyda ni am berfformiad ymwelwch â ‘Beth sydd ymlaen’ i weld ein cynigion diweddaraf.
I ddefnyddio gofod y Theatr ymwelwch â ‘Llogi Theatr’ a chysylltwch trwy ffonio neu e-bostio ein swyddfa, swyddfa@merthyrtudful.org 01685 722176
I fwcio sioe i mewn neu os ydych am gefnogaeth i ddatblygu syniad mewn cydweithrediad, cysylltwch am sgwrs gyda ein Rhaglennydd Creadigol Cymunedol Cathy Boyce.
Rhaglennydd Creadigol Cymunedol, Cathy Boyce, cathyB@merthyrtudful.org
Ffon: 01685 722176