theatr soar, Merthyr Tydfil

Y Consortiwm Cymraeg


Sefydlwyd Y Consortiwm Cymraeg am gyfnod o ddwy flynedd gyda chefnogaeth gan Cyngor Celfyddydau Cymru. Cydweithrediad newydd rhwng Cwmni Theatr na nÓg, Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, Theatr Soar a Neuadd Les Ystradgynlais, gyda’r nod o gyd-gynnal theatr hygyrch o’r safon uchaf yn yr iaith Gymraeg.

Yn ogystal, wnaeth y Consortiwm cyflwyno rhaglen o gyfranogiad cymunedol.

Roedd cynlluniau’r Consortiwm eisoes ar y gweill cyn dyfodiad pandemig Covid-19, ond wrth i’r canolfannau diwylliannol orfod cau eu drysau, sylweddolodd aelodau’r Consortiwm bod yr angen am y fath ganolfannau hyd yn oed yn fwy difrifol - i sicrhau dyfodol yr iaith Gymraeg yn y cymoedd ac i gynnal eu cymunedau bywiog tu hwnt i Bandemig Covid.

Crëwyd dau gynhyrchiad gan y Consortiwm, yn gyntaf, ‘ ‘Shirley Valentine’, gan Willy Russell, cyfieithiad gan Manon Eams ac wedyn ‘Y Fenyw Mewn Du’ (The Woman in Black) gan Stephen Malatratt, trosiad gan Gwawr Loader.

Shirley Valentine

gan Willy Russell

 

Cyfieithiad newydd i’r Gymraeg gan Manon Eames

Cyfarwyddwr Geinor Styles Cynllunydd Jacob Hughes Cynllunydd Goleuo Cara Hood

gyda Shelley Rees fel “Shirley”

Ar daith ym mis Mawrth 2022 (manylion llawn a dyddiadau i’w cadarnhau)

 

Dychweliad comedi aruthrol o waith awdur Blood Brothers ac Educating Rita - ond tro yma, wedi ei pherfformio yn y Gymraeg.
Merthyr yn y 90au : mae Cool Cymru wedi glanio, ac i bobl ifanc mae bywyd o’r diwedd yn llawn cyffro, Catatonia y Stereophonics - ac alcopops.

Nid felly i Shirley druan. I Shirley, mae bywyd a chyffro yn perthyn i’r gorffennol - ac mae’r blynyddoedd treuliodd yn troedio yn ei rhigol, yn wraig tŷ difflach a di-nod, wedi rhoi tolc yn ei hyder a’i breuddwydion. Ond mae Shirley ar fin camu i fyd fydd yn trawsnewid ei bywyd yn gyfan gwbl. Ymunwch â hi wrth iddi ffarwelio â fformeica’r gegin a’i drwco am bythefnos o wyliau yng Ngroeg : pythefnos fydd yn newid Shirley am byth.

Shelley Rees (BBC Radio Cymru, Pobol Y Cwm) fydd yn serennu fel Shirley Valentine yn y gomedi ddisglair yma sydd yn siŵr o godi calon a chynnal ysbryd ar ôl caledi’r cyfnod clo. Yn addas i bawb o ddysgwyr i siaradwyr rhugl. Dewch gyda ffrind, dewch gyda chriw, i fwynhau anturiaethau Shirley a hedfan gyda hi ar ei thaith annisgwyl i Baradwys - a bywyd newydd.