Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis.
Crëwyd y ddogfen hon yn defnyddio templed SEQ Legal.
Darn bach o wybodaeth yw ‘cwci’ ar ffurf ffeil destun sy’n cynnwys dynodwr (cadwyn o lythrennau a rhifau), sy’n cael ei anfon gan weinyddydd gwe a’i storio ar gyfrifiadur y sawl sy’n ymweld â gwefan. Gall y gweinyddydd neu’r porwr gwe wedyn ei ddarllen yn ôl yn nes ymlaen pan fo angen.
Mae defnyddio cwcis yn ffordd gyfleus i’r gweinyddydd gwe gofio gwybodaeth benodol sy’n gysylltiedig â gwefan a thracio’r porwr.
Gall cwcis fod naill ai’n rhai “parhaus” neu’n rhai “sesiwn”.
Mae cwci parhaus yn cynnwys ffeil destun wedi ei anfon gan weinyddydd gwe at borwr gwe, a fydd yn cael ei storio gan y porwr ac a fydd yn parhau’n ddilys tan ei ddyddiad dod i ben (oni bai ei fod yn cael ei ddileu gan y defnyddiwr cyn y dyddiad dod i ben).
Mae cwci sesiwn ar y llaw arall yn dod i ben ar ddiwedd sesiwn y defnyddiwr, pan fydd y porwr gwe’n cael ei gau.
Mae rhai o’r dibenion cyffredin y mae cwcis yn cael eu defnyddio ar eu cyfer yn cynnwys: (a) adnabod cyfrifiadur pan fydd defnyddiwr yn ymweld â’r wefan; (b) tracio’r defnyddiwr wrth i’r defnyddiwr lywio’r wefan; (c) galluogi defnyddio cert siopa ar y wefan; (d) gwella defnyddioldeb y wefan; (e) dadansoddi defnydd o’r wefan; (f) gweinyddu’r wefan; (g) rhwystro twyll a gwella diogelwch y wefan; (h) personoli’r wefan i ddefnyddiwr; a (i) thargedu hysbysebion a allant fod o ddiddordeb penodol i ddefnyddiwr.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i ddadansoddi’r defnydd o’r wefan hon. Mae Google Analytics yn cynhyrchu gwybodaeth ystadegol a gwybodaeth arall am ddefnydd gwefan trwy ddefnyddio cwcis, sy’n cael eu storio ar gyfrifiaduron defnyddwyr. Mae’r wybodaeth a gynhyrchir mewn perthynas â’n gwefan yn cael ei defnyddio i greu adroddiadau ynghylch y defnydd o’r wefan. Bydd Google yn storio’r wybodaeth hon. Mae polisi preifatrwydd Google ar gael ar: http://www.google.com/privacypolicy.html.
Nid yw cwcis yn cynnwys unrhyw wybodaeth sy’n eich adnabod chi’n bersonol, ond fe all gwybodaeth bersonol yr ydym ni’n ei storio amdanoch chi gael ei gysylltu , gennym ni, i’r wybodaeth sy’n cael ei storio yn ac yn cael ei ddarganfod gan cwcis.
Mae’r rhan fwyaf o borwyr yn caniatáu i chi wrthod derbyn cwcis. Er enghraifft:
(a) yn Internet Explorer (fersiwn 9) gallwch rwystro cwcis yn defnyddio’r gosodiadau gwrthwneud trafod cwcis trwy glicio ar “Offer”, “Dewisiadau Rhyngrwyd”, “Preifatrwydd” ac yna “Uwch”;
(b) yn Firefox (fersiwn 16) gallwch rwystro cwcis trwy glicio “Offer”, “Dewisiadau”, “Preifatrwydd”, dewis “Defnyddio gosodiadau addasu ar gyfer hanes” o’r gwymplen a dad-dicio “Derbyn cwcis gan wefannau”; ac
(c) yn Chrome (fersiwn 23), gallwch rwystro cwcis trwy fynd at y ddewislen “Addasu a rheoli” a chlicio “Gosodiadau”, “Dangos gosodiadau uwch” a “Gosodiadau cynnwys”, ac yna dewis “Rhwystro gwefannau rhag gosod unrhyw ddata” dan y pennawd “Cwcis”.
Fe fydd rhwystro cwcis yn gyfan gwbl, fodd bynnag, yn cael effaith negyddol ar ddefnyddioldeb llawer o wefannau.
Os fyddwch yn rhwystro cwcis, ni fyddwch yn gallu defnyddio holl nodweddion y wefan hon.
Gallwch hefyd ddileu cwcis sydd eisoes wedi eu storio ar eich cyfrifiadur. Er enghraifft:
(a) yn Internet Explorer (fersiwn 9), rhaid i chi ddileu ffeiliau cwcis â llaw (ceir cyfarwyddiadau ar sut i wneud hyn ar http://support.microsoft.com/kb/278835);
(b) yn Firefox (fersiwn 16), gallwch ddileu cwcis trwy glicio “Offer”, “Dewisiadau”, “Preifatrwydd” yna “Dangos Cwcis”, ac yna clicio “Dileu Cwcis”; ac
(c) yn Chrome (fersiwn 23), gallwch ddileu cwcis trwy fynd at y ddewislen “Addasu a rheoli” a chlicio “Gosodiadau”, “Dangos gosodiadau uwch” a “Clirio data pori”, ac yna dewis “Dileu cwcis a data gwefan ac ategyn arall” cyn clicio “Clirio data pori”.
Eto, fe all gwneud hyn gael effaith negyddol ar ddefnyddioldeb nifer o wefannau.
Mae’r wefan hon yn eiddo i, ac yn cael ei gweithredu gan Ganolfan a Menter Gymraeg Merthyr Tudful.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch y polisi cwcis hwn neu’r ffordd yr ydym yn trin eich gwybodaeth bersonol, ysgrifennwch atom trwy ebost at swyddfasoar@merthyrtudful.org neu trwy’r post at: Canolfan Soar, Pontmorlais, Merthyr Tudful, CF47 8UB