theatr soar, Merthyr Tydfil

Canolfan Soar


Canolfan Soar - Ymestyn Croeso Cymraeg Cynnes

Rydym yn cynnig lleoliad dwyieithog i fwynhau sgwrs, cwrdd â ffrindiau ac ymweld gyda’ch teulu. Tarwch mewn i Gaffi Soar am baned neu bryd o fwyd ysgafn a phori llyfrau ac anrhegion Cymreig Siop Lyfrau’r Enfys.

Mae’r Fenter Iaith ac ystod eang o sefydliadau ar draws y Sir yn cynnal rhaglen o weithgareddau Cymraeg, ddwyieithog a Saesneg yn y Ganolfan.

Os ydych am ymuno gyda’n gweithgareddau neu gyrsiau ymwelwch â ‘Cymryd Rhan’, tarwch mewn i weld beth sydd ar gael i chi neu cysylltwch gyda ni trwy ffonio neu e-bostio.

I fwcio defnydd ein hystafelloedd i gynnal cwrs, cyfarfod, gweithgaredd, parti neu unrhyw beth arall ymwelwch â ‘Llogi Ystafell’

Os ydych am drafod cydweithrediad ar brosiect gyda’r Fenter Iaith cysylltwch gyda’n Swyddog Datblygu’r Gymraeg Rheinallt Williams, trwy ffonio neu e-bostio.