theatr soar, Merthyr Tydfil

Telerau ac Amodau’r Wefan


(1) Cyflwyniad

Mae’r telerau defnyddio hyn yn rheoli eich defnydd o’n gwefan; trwy ddefnyddio ein gwefan, rydych yn cytuno’n llawn i’r telerau defnyddio hyn. Os ydych yn anghytuno â’r telerau defnyddio neu unrhyw ran o’r telerau defnyddio hyn, rhaid i chi beidio â defnyddio ein gwefan.

Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis. Trwy ddefnyddio ein gwefan a chytuno â’r telerau defnyddio hyn, rydych yn caniatáu ein defnydd o cwcis yn unol â thelerau ein polisi preifatrwydd a’n polisi cwcis.

(2) Cydnabyddiaeth

Crëwyd y ddogfen hon yn defnyddio templed SEQ Legal

(3) Trwydded i ddefnyddio’r wefan

Oni nodir yn wahanol, yr ydym ni neu ein trwyddedwyr yn berchen ar yr hawliau eiddo deallusol ar y wefan a defnydd ar y wefan. Yn amodol ar y drwydded isod, cedwir yr holl hawliau eiddo deallusol hyn.

Fe allwch weld, lawr lwytho at ddibenion storio dros dro yn unig, ac argraffu tudalennau oddi ar y wefan ar gyfer eich defnydd personol chi, yn amodol ar y cyfyngiadau a nodir isod ac mewn mannau eraill yn y telerau defnyddio hyn.

Rhaid i chi beidio â gwneud y canlynol:

(a) ail gyhoeddi defnydd o’r wefan hon (yn cynnwys ail gyhoeddi ar wefan arall);

(b) gwerthu, rhentu neu is-drwyddedu defnydd o’r wefan;

(c) dangos unrhyw ddefnydd o’r wefan yn gyhoeddus;

(ch) atgynhyrchu, dyblygu, copïo neu ddangos defnydd ar ein gwefan mewn unrhyw ffordd arall at ddibenion masnachol;

(d) golygu neu addasu unrhyw ddefnydd ar y wefan mewn ffordd arall;

(dd) ail ddosbarthu defnydd o’r wefan hon ac eithrio cynnwys sydd ar gael yn benodol ac yn unswydd ar gyfer ei ail ddosbarthu.

(4) Defnydd derbyniol

Peidiwch â defnyddio ein gwefan mewn unrhyw ffordd sy’n achosi, neu a all achosi, niwed i’r wefan neu sy’n amharu ar wasanaeth neu hygyrchedd y wefan; neu mewn unrhyw ffordd sy’n anghyfreithlon, twyllodrus neu niweidiol, neu mewn cysylltiad ag unrhyw bwrpas neu weithgaredd anghyfreithlon, twyllodrus neu niweidiol.

Peidiwch â defnyddio ein gwefan i gopïo, cadw, lletya, trosglwyddo, anfon, cyhoeddi neu ddosbarthu unrhyw ddefnydd sy’n cynnwys (neu sy’n gysylltiedig ag) unrhyw ysbiwedd, firws cyfrifiadur, firws Ceffyl Pren Troea, mwydyn, cofnodwr trawiadau bysellau, gwreiddwedd neu feddalwedd cyfrifiadur maleisus arall.

Peidiwch â chynnal unrhyw weithgareddau casglu data systematig neu awtomataidd (yn cynnwys, heb gyfyngiad, gwe grafu, cloddio data, echdynnu data a chynaeafu data) ar neu mewn perthynas â’n gwefan heb ganiatâd ysgrifenedig unswydd gennym.

Peidiwch â defnyddio ein gwefan i drosglwyddo neu anfon gohebiaeth masnachol digymell.

Peidiwch â defnyddio ein gwefan at unrhyw ddibenion yn ymwneud â marchnata heb ein caniatâd ysgrifenedig unswydd.

(5) Cynnwys gan ddefnyddwyr

Yn y telerau defnyddio hyn, ystyr “eich cynnwys” yw defnydd (yn cynnwys, heb gyfyngiad, testun, delweddau, defnydd sain, defnydd fideo a defnydd clyweled) yr ydych yn ei gyflwyno ar ein gwefan, at ba bynnag bwrpas.

Rydych yn caniatáu trwydded i ni sydd yn fyd-eang, di-alw yn ôl, di-freindal heb fod yn unigryw i ddefnyddio, atgynhyrchu, addasu, cyhoeddi, cyfieithu a dosbarthu eich cynnwys mewn unrhyw gyfryngau sy’n bodoli eisoes neu yn y dyfodol. Rydych hefyd yn rhoi’r hawl i ni is-drwyddedu’r hawliau hyn a’r hawl i ddwyn achos am dorri’r hawliau hyn.

Rydych yn gwarantu ac yn cynrychioli y bydd eich cynnwys yn cydymffurfio â’r telerau defnyddio hyn.

Rhaid i’ch cynnwys beidio â bod yn anghyfreithlon, ni ddylai dorri hawliau cyfreithiol unrhyw drydydd parti ac ni ddylai allu arwain at gamau cyfreithiol pa unai yn eich erbyn chi neu ni neu drydydd parti (dan unrhyw gyfraith berthnasol ym mhob achos).

Peidiwch â chyflwyno unrhyw gynnwys ar y wefan sydd yn neu sydd wedi bod yn destun unrhyw fygythiad o gamau cyfreithiol neu gamau cyfreithiol go iawn neu unrhyw gŵyn arall tebyg.

Rydym yn cadw’r hawl i olygu neu ddileu unrhyw ddefnydd a gyflwynir ar ein gwefan, neu a gadwir ar ein gweinyddwyr, neu sy’n cael ei letya neu ei gyhoeddi ar ein gwefan.

Er gwaethaf ein hawliau dan y telerau defnyddio hyn mewn perthynas â’ch cynnwys, nid ydym yn ymgymryd â monitro cyflwyniad y fath gynnwys ar, neu gyhoeddi’r fath gynnwys ar, ein gwefan.

(6) Gwarantau cyfyngedig

Nid ydym yn gwarantu cyfanrwydd na chywirdeb yr wybodaeth a gyhoeddir ar y wefan hon; nid ydym chwaith yn ymrwymo i sicrhau bod y wefan ar gael yn barhaol na bod y defnydd ar y wefan yn cael ei gadw’n gyfredol.

I’r graddau eithaf a ganiateir gan gyfraith berthnasol, rydym yn gwahardd pob cynrychiolaeth, gwarant ac amod sy’n ymwneud â’r wefan hon a defnyddio’r wefan hon (yn cynnwys, heb gyfyngiad, unrhyw warantau ymhlyg yn ôl y gyfraith o ran ansawdd boddhaol, addasrwydd i bwrpas a/neu’r defnydd o ofal a sgil rhesymol).

(7) Cyfyngiadau ac eithriadau atebolrwydd

Ni fydd dim yn y telerau defnyddio hyn yn: (a) cyfyngu neu eithrio ein neu eich atebolrwydd am farwolaeth neu anaf personol yn deillio o esgeulustod; (b) cyfyngu neu eithrio ein neu eich atebolrwydd am dwyll neu gamgynrychiolaeth twyllodrus; (c) cyfyngu ar unrhyw atebolrwydd gennym ni neu chi mewn unrhyw ffordd na chaniateir dan gyfraith berthnasol; neu (ch) eithrio unrhyw atebolrwydd gennym ni neu chi na ellir ei eithrio dan gyfraith berthnasol.

Mae’r cyfyngiadau ac eithriadau atebolrwydd a nodir yn yr Adran hon ac mewn mannau eraill yn y telerau defnyddio hyn: (a) yn amodol ar y paragraff blaenorol; a (b) yn llywodraethu pob atebolrwydd sy’n codi dan y telerau defnyddio hyn mewn perthynas â chynnwys y telerau defnyddio hyn, yn cynnwys atebolrwydd yn codi mewn cytundeb, mewn camwedd (yn cynnwys esgeulustod) ac am dorri dyletswydd statudol.

I’r graddau bod y wefan a’r wybodaeth a gwasanaethau ar y wefan yn cael eu darparu am ddim, ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod o unrhyw natur.

Ni fyddwn yn atebol i chi am unrhyw golledion sy’n codi o unrhyw ddigwyddiad neu ddigwyddiadau y tu hwnt i’n rheolaeth resymol ni.

Ni fyddwn yn atebol i chi am unrhyw golledion busnes, yn cynnwys (heb gyfyngiad) colled neu ddifrod i elw, incwm, refeniw, defnydd, cynhyrchion, arbedion rhagweladwy, busnes, cytundebau, cyfleoedd masnachol neu ewyllys da.

Ni fyddwn yn atebol i chi am unrhyw golled neu lygru o ran data, cronfa ddata neu feddalwedd.

Ni fyddwn yn atebol i chi am unrhyw golled neu ddifrod arbennig, anuniongyrchol neu ganlyniadol.

(8) Indemniad

Rydych yn cytuno drwy hyn i’n hindemnio, a pharhau i’n hindemnio ni yn erbyn unrhyw golledion, difrodau, costau, atebolrwydd a threuliau (gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i ffioedd cyfreithiol ac unrhyw gyfansymiau a dalwyd gennym ni i drydydd parti fel taliad am hawliad neu anghydfod ar gyngor ein cynghorwyr cyfreithiol) a dynnwyd arnom ni o ganlyniad i unrhyw doriad gennych chi o unrhyw ddarpariaeth o’r telerau defnyddio hyn, neu’n codi o unrhyw hawliad eich bod wedi torri unrhyw ddarpariaeth o’r telerau defnyddio hyn.

(9) Torri’r telerau defnyddio hyn

Heb leihau effaith ein hawliau eraill dan y telerau defnyddio hyn, os fyddwch yn torri’r telerau defnyddio hyn mewn unrhyw ffordd, fe allwn weithredu mewn unrhyw fodd yr ystyriwn sy’n briodol i ymdrin â’r toriad hwnnw, yn cynnwys atal eich mynediad at y wefan dros dro, eich gwahardd rhag defnyddio’r wefan, rhwystro cyfrifiaduron sy’n defnyddio eich cyfeiriad Protocol Rhyngrwyd rhag mynd ar y wefan, cysylltu â’ch darparwr gwasanaeth rhyngrwyd i ofyn iddo atal eich mynediad at y wefan a/neu ddwyn achos llys yn eich erbyn.

(10) Amrywiadau

Gallwn ddiwygio’r telerau defnydd hyn o bryd i’w gilydd. Bydd y telerau defnydd diwygiedig yn dod i rym o ddyddiad cyhoeddi’r telerau diwygiedig ar ein gwefan.

(11) Aseiniad

Gallwn drosglwyddo, is-gontractio neu ymdrin fel arall â’n hawliau a/neu ymrwymiadau dan y telerau defnydd hyn heb eich hysbysu neu gael eich cydsyniad.

Ni allwch drosglwyddo, is-gontractio neu ymdrin fel arall â’ch hawliau a/neu ymrwymiadau dan y telerau defnydd hyn.

(12) Toradwyedd

Os bydd unrhyw lys neu awdurdod cymwys arall yn barnu bod darpariaeth o’r telerau hyn yn anghyfreithlon a/neu anorfodadwy, bydd yr amodau sy’n weddill yn para mewn grym. Os bydd unrhyw ddarpariaeth anghyfreithlon a/neu anorfodadwy yn gyfreithiol neu’n orfodadwy petai rhan ohoni’n cael ei dileu, tybir i’r rhan honno gael ei dileu, a bydd yr amodau sy’n weddill yn para mewn grym.

(13) Gwahardd hawliau trydydd parti

Mae’r telerau defnyddio hyn er eich budd chi a ni, ac ni fwriedir iddynt fod er budd unrhyw drydydd parti na bod yn orfodadwy gan unrhyw drydydd parti. Nid yw arfer eich hawliau chi na ni mewn perthynas â’r telerau defnyddio hyn yn amodol ar ganiatâd gan unrhyw drydydd parti.

(14) Y cytundeb cyfan

Yn amodol ar baragraff cyntaf Adran 7, mae’r telerau defnyddio hyn, ynghyd â’n polisi preifatrwydd, polisi telerau gwerthu a pholisi tanysgrifio yn llunio’r cytundeb cyfan rhyngoch chi a ni mewn perthynas â’ch defnydd o’n gwefan ac yn disodli pob cytundeb blaenorol o ran eich defnydd o’n gwefan.

(15) Cyfraith ac awdurdodaeth

Bydd y telerau defnydd hyn yn cael eu llywodraethu a’u dehongli yn unol â chyfraith Lloegr, a bydd gan lysoedd Cymru a Lloegr awdurdodaeth unigryw dros unrhyw anghydfod yn ymwneud â’r telerau defnydd hyn.

(16) Cofrestriadau ac awdurdodaethau

Rydym yn Gwmni Preifat Cyfyngedig trwy Warant a heb gyfalaf cyfranddaliadau. Rydym wedi cofrestru gyda Thŷ’r Cwmnïau yn unol â Deddf Cwmnïau 1985 a 1989. Ein Rhif Cofrestredig yw: 06249902.

Rydym wedi cofrestru gyda’r Comisiwn Elusennau. Ein Rhif Elusen yw 1124473.

Nid ydym wedi cofrestru at ddibenion TAW.

(17) Ein manylion

Enw Cwmni: Canolfan a Menter Gymraeg Merthyr Tudful.

Ein cyfeiriad cofrestredig yw Canolfan Soar, Pontmorlais, Merthyr Tudful CF47 8UB.

Gallwch gysylltu trwy anfon ebost at swyddfasoar@merthyrtudful.org

 

Cysylltwch...


01685 722176 | swyddfasoar@merthyrtudful.org

Theatr Soar, Canolfan Soar, Pontmorlais, Merthyr Tudful, CF47 8UB

Lisbeth McLean, Prif Swyddog, lis@merthyrtudful.org
Dilwyn Roberts, Swyddog Datblygu, dilwyn@merthyrtudful.org


Map