theatr soar, Merthyr Tydfil

Polisi Dychweliadau, Ad-daliadau a Chanslo


(1) Cyflwyniad

Rydym yn deall o bryd i gilydd efallai y byddwch eisiau dychwelyd nwyddau atom neu ganslo archeb.

Rydym wedi creu’r polisi dychweliadau 30 diwrnod hwn i’ch galluogi chi i ddychwelyd nwyddau a chanslo archebion gyda ni mewn amgylchiadau addas.

Nid yw’r polisi hwn yn effeithio ar eich hawliau statudol1 (fel eich hawliau dan Ddeddf Gwerthu Nwyddau 1979 a Rheoliadau Diogelu Defnyddwyr (Gwerthu o Bell) 2000).

(2) Dychweliadau

Ble nad oes gennych unrhyw hawl gyfreithiol arall i ddychwelyd nwyddau a derbyn ad-daliad neu gyfnewidiad, er hynny bydd gennych hawl i ddychwelyd nwyddau atom ni ble:

(a) rydym yn derbyn y nwyddau wedi eu dychwelyd o fewn 30 diwrnod ar ôl dyddiad prynu’r nwyddau;

(b) mae’r nwyddau wedi eu dychwelyd heb eu defnyddio, mewn cyflwr sy’n ein galluogi i’w gwerthu fel newydd;

(c) rydych yn cydymffurfio â’r trefniadau dychwelyd/canslo a nodir isod.

(3) Trefniadau dychwelyd

Er mwyn manteisio ar eich hawliau dan y polisi dychweliadau hwn, rhaid i chi:

a) Anfon ebost at neu ffonio Canolfan Soar neu Theatr Soar i’n hysbysu o’ch bwriad i ddychwelyd y nwyddau

b) Ddychwelyd y nwyddau yn gyfan i Ganolfan Soar.

Rhaid anfon nwyddau sydd wedi eu dychwelyd dan y polisi hwn at:

Canolfan Soar, Pontmorlais, Merthyr Tudful CF47 8UB

Byddwch yn gyfrifol am dalu costau postio sy’n gysylltiedig â dychweliadau dan y polisi hwn.

(4) Canslo

Er mwyn canslo archeb am ystafell rhaid i chi ein hysbysu o’ch bwriad o leiaf 1 wythnos ymlaen llaw. Codir ffi canslo o 25% o gost yr archeb. Os fydd archeb yn cael ei ganslo o fewn 48 awr o’r digwyddiad codir ffi canslo o 50%. Os na fyddwch yn cyrraedd ar y dydd codir y ffi lawn ar gyfer yr archeb

(5) Ad-daliadau

Byddwn yn rhoi ad-daliad i chi am bris llawn unrhyw nwyddau sydd wedi eu dychwelyd gennych chi yn unol â thelerau’r polisi dychweliadau hwn (ac eithrio’r costau cludiant gwreiddiol a chostau dychwelyd yr eitemau atom).

Fel arfer byddwn yn ad-dalu unrhyw arian a dderbyniwyd gennych chi yn defnyddio’r un dull ac a ddefnyddiwyd yn wreiddiol gennych i dalu am eich nwyddau.

Byddwn yn prosesu’r ad-daliad dyledus cyn gynted â phosib, ac o fewn 30 diwrnod ar ôl dyddiad derbyn eich nwyddau wedi eu dychwelyd beth bynnag sy’n digwydd.

(6) Dychweliadau amhriodol

Ble byddwch yn dychwelyd nwyddau yn groes i’r polisi hwn (a ble nad oes gennych chi unrhyw hawl cyfreithiol arall i ddychwelyd y nwyddau):

(a) ni fyddwn yn ad-dalu na chyfnewid y nwyddau;

(b) fe allwn gadw’r nwyddau wedi eu dychwelyd hyd nes y byddwch yn talu swm ychwanegol i ni y gellir ei godi gennym am ail anfon y nwyddau wedi eu dychwelyd; ac

(c) os nad ydym yn derbyn taliad am swm ychwanegol o’r fath o fewn 14 diwrnod o gyflwyno cais am daliad, fe allwn ddinistrio neu gael gwared â’r nwyddau a ddychwelwyd mewn rhyw ffordd arall ar ein disgresiwn ein hunain heb unrhyw atebolrwydd i chi.

(7) Amdanom ni

Ein henw llawn yw Canolfan a Menter Gymraeg Merthyr Tudful

Ein swyddfa gofrestredig a’n prif gyfeiriad masnachu yw Canolfan Soar, Pontmorlais, Merthyr Tudful CF47 8UB

Rhif cofrestredig ein cwmni yw 06249902

Ein cyfeiriad ebost yw lis@merthyrtudful.com