theatr-soar

Beth Sydd Ymlaen


Event Name:

Dyddiad:

Grŵp Celf Soar

Grŵp Celf Soar

Dydd Iau (yn ystod y tymor), 1.30yh - 3.30yh

Grŵp celf wythnosol dan arweiniad yr artist Gus Payne.


Al Lewis

Al Lewis

26/04/25 7:30pm

Ar Nos Sadwrn, Ebrill 26ain, 2025 bydd Al Lewis, y canwr/cyfansoddwr o Ben Llŷn, yn cychwyn ar daith unigryw mewn partneriaeth â Thrafnidiaeth Cymru; wrth iddo ymweld â threfi a dinasoedd ar hyd rhwydwaith rheilffyrdd odidog Cymru. Bydd Al nid yn unig yn ymweld a rhannau newydd o’r wlad, ond hefyd yn ymgymryd â dull fwy amgylcheddol a chymdeithasol o deithio, gan ddangos sut y gall cerddorion wneud eu rhan i helpu ni i leihau eu hôl troed carbon.


Noson Gomedi Cymraeg gyda Noel James

Noson Gomedi Cymraeg gyda Noel James

02/05/25 7:30yp

Noson o gomedi Cymraeg yng nghwmni Noel James a gwesteion arbennig

Mae Noel wedi bod yn perfformio ei gomedi gweledol llawn mwyseiriau am dros chwarter canrif ac wedi chwarae clybiau comedi enwoga’r DU. Ddaeth i amlygrwydd eang yn 2018 pryd cyrhaeddodd rownd cyn -derfynol Britain’s Got Talent. Mae ei ddeunydd hynod glyfar, swreal a ddireidus yn apelio at bob oed a phob cynulleidfa.

14+


Amy Johnson, Last Flight Out gan Jenny Lockyer

Amy Johnson, Last Flight Out gan Jenny Lockyer

08/05/25 7:30yh

Sioe un fenyw ‘syfrdanol’ wedi’i hysbrydoli gan Amy Johnson, y fenyw gyntaf i hedfan ar ei phen ei hun o Loegr i Awstralia!


Gweithdy Cyfansoddi

Gweithdy Cyfansoddi

11/05/25 10-4pm

GWEITHDY CYFANSODDI gydag UPROAR a David John Roche

Mae Ensemble Uproar yn cynnig gweithdy cyfansoddi diwrnod o hyd wedi’i anelu at gyfansoddwyr a cherddorion ifanc o Gymru 14-18 oed (blynyddoedd 10-13). Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn dysgu am ysgrifennu cerddoriaeth, gwahanol fathau o nodiant cerddorol, cerddoriaeth newydd flaengar, a phosibiliadau gwahanol offerynnau - i gyd mewn amgylchedd cyfeillgar, cefnogol a hwyliog.


Babi, Aderyn a’r Wenynen | Baby, Bird & Bee

Babi, Aderyn a’r Wenynen | Baby, Bird & Bee

15/05/25 -11am Saesneg / 1pm Cymraeg / 3pm Saesneg

Theatr Iolo yn cyflwyno Babi, Aderyn a’r Wenynen | Baby, Bird & Bee

Crëwyd gan Sarah Argent a Kevin Lewis


Burum

Burum

17/05/25 7:30yh

Mae Burum yn fand hollol unigryw yng Nghymru sydd yn chwarae alawon traddodiadol Cymraeg mewn arddull jazz.

Mae’r brodyr Tomos a Daniel Williams yn arwain grŵp o gerddorion mwya’ disglair a creadigol Cymru, sy’n cynnwys seren y byd gwerin Patrick Rimes ar y pibau a’r ffliwt, a’r drymiwr anhygoel Mark O’Connor.


The Night With...Emma Lloyd

The Night With...Emma Lloyd

24/05/25

Rhaglen o weithiau cyfoes sy’n archwilio posibiliadau mynegiannol y ffidil trwy dechnegau estynedig, electroneg, a dehongliad penagored. Yn cynnwys cerddoriaeth o’r halbwm mue, mae’r cyngerdd yn dod â darnau ynghyd sydd wedi’u siapio gan gydweithrediadau hirsefydlog a chwilfrydedd cyffredin am sain.


Cofio'r Pentref Tawel: Stori Cymru a Lidice

Cofio'r Pentref Tawel: Stori Cymru a Lidice

29/05/25 18:30-20:00

I goffáu 80 mlynedd ers Diwrnod VE, ymunwch â ni ar gyfer dangosiad o ffilm The Silent Village gyda siaradwyr gwadd.

Mewn partneriaeth â Llyfrgell Holocost Wiener, Sefydliad Josef Herman a Chanolfan Ddiwylliannol Iddewig Cymru byddwn yn cyflwyno The Silent Village, sy’n cofio cyflafan Lidice, lle dienyddiwyd poblogaeth wrywaidd gyfan cymuned lofaol gan y Natsïaid ym 1942. Mae’r ffilm yn gweld pentrefwyr Cwmgiedd, de-orllewin Cymru, yn ailadrodd ac ail-greu’r stori drasig fel petai’n digwydd yng Nghwmgiedd.


Lleuwen Steffan - Tafod Arian

Lleuwen Steffan - Tafod Arian

12/06/25 7:30yh

Mae Tafod Arian yn gynhyrchiad aml-haenog sy’n cyfuno ffilm ac archif sain gweledol a chlywedol mewn cywaith gerddorol unigryw. Talai Lleuwen Steffan deyrnged i leisiau’r gorffennol, gan drwytho eu melodïau a’u geiriau oesol gyda threfniannau cyfoes a dehongliadau o’r galon a gewch yma. Mae’r cynhyrchiad hwn yn rhoi bywyd newydd i recordiadau archif, gan sicrhau bod yr emynau llafar gwlad, a gafodd eu anwylo gan y genedl, yn hawlio eu lle ar lwyfannau Cymru heddiw.

Mae’r prosiect hwn yn gomisiwn gan Eisteddfod Genedlaethol Cymru gyda chefnogaeth y Cyngor Prydeinig ac Elusen Gwendoline a Margaret Davies.


Mike Bubbins

Mike Bubbins

08/11/25 7:30yh

Ymunwch â seren sit-com llwyddiannus y BBC, Mammoth, mewn noson olwyn rydd o sgwrs, straeon a deunydd newydd o waith ar y gweill.


 

Cysylltwch...


01685 722176 | swyddfasoar@merthyrtudful.org

Theatr Soar, Canolfan Soar, Pontmorlais, Merthyr Tudful, CF47 8UB

Lisbeth McLean, Prif Swyddog, lis@merthyrtudful.org
Dilwyn Roberts Swyddog Datblygu dilwyn@merthyrtudful.org


Map