NODWCH: Am gyfeiriadau Satnav. defnyddiwch y cod post CF47 8BU bydd yn cymryd chi I’r Maes Parcio a mynedfa’r adeilad.
Mae Theatr Soar yn rhan o Ganolfan Soar, ac wedi ei lleoli ym Mhontmorlais yng nghanol Merthyr Tudful. Mae modd cyrraedd y Theatr ar droed, ar fws, ar drên neu mewn car.
1. O’r gogledd ddwyrain
Gadewch yr A465 Blaenau’r Cymoedd ar y gylchfan a chymryd yr A470 i gyfeiriad y de.
Ar y gylchfan cymrwch y troad cyntaf ac yna syth ar draws y gylchfan nesaf. Ewch yn syth trwy’r set gyntaf o oleuadau ac yna troi i’r dde yn yr ail set i Avenue De Clichy.
Cymrwch y troad cyntaf i’r chwith i Stryd y Castell yna troi i’r chwith gyferbyn â Gwesty’r Castell tuag at y maes parcio aml lawr. Ewch heibio i’r maes parcio aml lawr ac ar ben pellaf y rhan talu ac arddangos, fe welwch Ganolfan Soar – adeilad lliw teracota.
2. O’r gogledd orllewin
Ar yr A465 dilynwch yr arwyddion am Ferthyr Tudful yna’r A470 a dilyn y cyfarwyddiadau uchod.
3. O’r gogledd
A470 o Aberhonddu. Lle mae’r A470 yn cwrdd â chylchfan A465, ewch syth ymlaen yna dilyn y cyfarwyddiadau uchod.
4. O’r de
A470 o Gaerdydd. Dilynwch yr arwyddion am Ferthyr Tudful. Ar gylchfan Parc Manwerthu Cyfarthfa cymerwch y trydydd troad a dilyn y cyfarwyddiadau uchod.
NODWCH: Am gyfeiriadau Satnav. defnyddiwch y cod post CF47 8BG bydd yn cymryd chi i’r Castle Hotel. O fanna troi i’r chwith mewn i’r maes parcio aml lawr. Ewch heibio i’r maes parcio aml lawr ac ar ben pellaf y rhan talu ac arddangos, fe welwch Ganolfan Soar – adeilad lliw teracota.