Coffi o ansawdd, bwyd o ansawdd a chwmni o ansawdd.
Caffi Soar yw’r lle delfrydol i ymlacio gyda ffrindiau dros baned. Mae croeso i bawb yng Nghaffi Soar a croeso Cymraeg a chymreig bob tro. Dyn ni’n denu pob math o bobol o artistiaid, cerddorion, perfformwyr, grwpiau hanes a dysgwyr Cymraeg. Mae WiFi am ddim felly dyma lleoliad ymlaciedig i wneud bach o waith a chwrdd a chydweithwyr.
Rydym yn stocio cynyrch lleol gan gynnwys Chilli of the Valley, Mel Torfaen a chynnyrch Bragdy Twt Lol.
Rydym hefyd yn darparu bwffe a lluniaeth ar gyfer digwyddiadau arbennig. Ffoniwch neu ebostiwch am fanylion.
Ebost: jamtew@yahoo.co.uk
Ffôn: 01685722176