Theatr Soar – Adnoddau Technegol. Mae gan Theatr Soar offer o’r radd flaenaf i gwrdd â’ch holl anghenion technegol, beth bynnag fo’r digwyddiad.
Mae gan Theatr Soar system uwchseinydd JBL VRX Line Array wedi ei ffurfweddu i LRC gan ddarparu sain ar gyfer yr holl safle (yn cynnwys seinyddion ar gyfer yr ardal y tu ôl i’r system sain). Soundcraft Vi1 yw’r ddesg, gyda 32 sianel ac effeithiau a chyfartalydd sain. Ar hyn o bryd mae cymysgedd monitor 2 ffordd yn cael ei ddarparu gyda 4 monitor JBL 712M, ond gellir cynyddu hyn i gymysgedd monitor 4 ffordd trwy drefniant ymlaen llaw.
Mewn sawl lle yn yr adeilad (sef y stiwdio ddawns, y gofod theatr a’r gofod stiwdio) darparir tri blwch wal. Mae’r tri wedi eu cysylltu gan roi mewnbynnau i’r ddesg ac allbynnau uniongyrchol.
Mae nifer o bwyntiau cyfathrebu (XLR) wedi eu darparu trwy gydol yr adeilad yn ogystal â phwyntiau atodol. Er bod pwyntiau cyfathrebu ar gael ni cheir system gyfathrebu fewnol.
Mae taflunydd (Christie LX700) yn y theatr ynghyd a sgrin y gellir ei defnyddio mewn sawl ffordd (cysylltu â gliniadur, chwarae fideo ac ati). Mae sawl pwynt o amgylch y theatr ble y byddai’n bosib cysylltu dyfeisiadau o’r fath.
Ceir 36 sianel yn y theatr trwy 6 bar goleuadau wedi eu gosod o amgylch y theatr (pob un â chyfuniad o gyflenwadau 15 ac 16 amp). Gyda’r system bylyddion Betapack Zero 88 mae hyn yn rhoi 12 sianel bylu i chi (os oes angen rhagor o sianeli pylu mae cyflenwad pŵer 3 gwedd 32 amp ar gyfer pecyn pylyddion ychwanegol). Mae pwyntiau DMX o amgylch y gofod theatr. Ceir desg oleuadau TC Smarfade Ml. Mae stoc gyffredinol o lampau ar gael, cysylltwch â ni am restr gyfredol.
Am ddogfen manylion technegol llawn cysylltwch â’r rheolwr theatr einir@theatrsoar.com.
01685 722176 | swyddfasoar@merthyrtudful.org
Theatr Soar,
Canolfan Soar,
Pontmorlais,
Merthyr Tudful,
CF47 8UB
Lisbeth McLean, Prif Swyddog, lis@merthyrtudful.org
Gus Payne, Swyddog Datblygu, siop@merthyrtudful.org