Yn unol â deddfwriaeth newydd llywodraeth Cymru, does dim angen Pas Covid i fynychu perfformiadau yn y Theatr
Rydym yn parhau i ofyn i chi :
• Ddefnyddio system e-docynnau di-gyffwrdd
• Ddefnyddio Gorsafoedd diheintio
Croeso i Ganolfan a Theatr Soar
Menter Iaith Merthyr Tudful sydd yn gweithredu Canolfan a Theatr Soar yng Nghanol Tref Merthyr Tudful. Mae’r sefydliad yn ganolbwynt i ddatblygiad y Gymraeg yn yr ardal.
Mae nifer o sefydliadau sydd yn gwasanaethu’r ardal wedi ymgartrefu yma yng Nghanolfan Soar sef Urdd Gobaith Cymru, Dysgu Cymraeg Morgannwg a Chylch Meithrin Soar. Mae’r Ganolfan hefyd yn lleoliad i gwmnïau Cymraeg ei hiaith, sef Siop Lyfrau’r Enfys, a Chaffi Soar.
Rydym yn cynnig ystod o weithgareddau, gweithdai a pherfformiadau mewn partneriaeth â sefydliadau sydd yn ysgogi cyfranogiad. Cyn cyfnod Covid-19, croesawyd tua 42,000 o bobl o bob oedran a chefndir yn flynyddol.
Wrth wraidd ein sefydliad mae darparu amgylchfyd sy'n adeiladu hunan hyder a hunan barch ac yn ehangu gorwelion ein cymuned. Mae cydraddoldeb ac amrywiaeth a llesiant ein cymuned wrth wraidd ein gwaith bob dydd.
Y Fenyw Mewn Du - Sesiynnau Adrodd Straeon - Storytelling Sessions
9,16,23 /10/23 6-7pm
Ydych chi’n ddysgwr Cymraeg neu’n rhywun sydd eisiau magu hyder I ddefnyddio’ch Gymraeg mewn
ffordd greadigol a hwyliog?
Mae Cymru yn wlad llawn chwedlau a straeon. Mae gan bob pentref a bro stori ysbryd, a phob tref
stori am y Tylwyth Teg.
Oes gennych chi stori am brofiadau arswydus y mae’n rhaid i chi ei rhannu?
Cyngerdd Lansio Organ Soar - Soar Organ Launch Concert
23.09.23 7:30pm
Khamira - Taith 2023 Tour
21.09.23 - 7:30pm
Yn Nghanolfan a Theatr Soar rydym yn llawn cyffro wrth edrych ymlaen at groesawu Khamira atom ar nos Iau, Medi’r 21ain, 2023 am 7.30yh. Cyfuniad o gerddoriaeth glasurol Hindustani a cherddoriaeth werin Cymru gyda dylanwadau’n cynnwys Miles Davis, Llio Rhydderch, Pat Metheny, Kenny Kirkland a chanu Sufi ymysg eraill - bydd hi’n noson fythgofiadwy!
At Canolfan a Theatr Soar we are excited to welcome Khamira for a special concert on Thursday, September 21st, 2023. A combination of classical Hindustani music and Welsh folk music with a diverse influences which include Miles Davis, Llio Rhydderch, Pat Metheny, Canu Sufi and Kenny Kirkland among others - it will be an unforgettable night!
Khamira: Our music contains multitudes, transcends continents, and is our quest for the truth…
Facebook
Twitter
Map
Cysylltu
01685 722176
swyddfasoar@merthyrtudful.org
Theatr Soar, Canolfan Soar, Pontmorlais, Merthyr Tudful, CF47 8UB
Lisbeth McLean, Prif Swyddog, lis@merthyrtudful.org
Eleri Walters, Swyddog Datblygu, eleri@merthyrtudful.cymru