Yn arwain at berfformiad ‘Y Llyn’ gan Bando ar Hydref 26 rydyn ni’n falch o groesawu Michael Harvey atom i arwain gweithdy.
Bydd y sesiwn yn cyfranogol a llawn hwyl. Byddwn yn rhannu rhai straeon personol byr ac wedyn yn dechrau ar stori draddodiadol mewn grwpiau bychain. Bydd cyfle gyda chi i rannu rhan o’r stori yr ydych chi wedi’i chreu os hoffech chi (ond does dim rhaid!)
Mae’r gweithdy yn addas i Gymry Cymraeg a siaradwyr newydd. Peidiwch â phoeni os ydych chi’n poeni nad yw’ch Cymraeg ddim yn ddigon da! Mae croeso i chi ddefnyddio pa bynnag Gymraeg sy’ gyda chi!
Mae Michael wedi teithio’r byd yn adrodd straeon a dysgu’r grefft o chwedleua. Yn ddiweddar mae wedi dechrau arbrofi gyda sioeau dwyieithog heb gyfieithad allanol. Mae ar daith yng Nghymru ar hyn o bryd gyda’r cwmni newydd Bando! ac mae’r sioe Y LLYN https://www.bandowales.org/home/yllyn sydd yn seiliedig ar hanes Merch y Llyn o Lyn y Fan Fach.
I archebu eich lle e-bostiwch ein Rhaglennyd Creadigol Cathy Boyce CathyB@merthyrtudful.org neu galwch draw i’r swyddfa docynnau.
Theatr Soar,
Canolfan Soar,
Pontmorlais,
Merthyr Tudful,
CF47 8UB
Lisbeth McLean, Prif Swyddog, lis@merthyrtudful.org
Eleri Walters, Swyddog Datblygu, eleri@merthyrtudful.cymru