Addysgu Rita


Addysgu Rita

Mai 15 &16 7.30yh Y Consortiwm Cymraeg yn Cyflwyno’r Gomedi Addysgu Rita gan Willy Russell, wedi’i gyfieithu gan Gwawr Loader Y ddrama a enillodd Wobr Olivier, yn y Gymraeg am y tro cyntaf erioed. Pan mae Rita, merch briod sy’n trin gwallt, yn cofrestru ar gwrs prifysgol er mwyn ehangu ei gorwelion, does ganddi ddim syniad beth fydd diwedd y daith. Dyw ei thiwtor sinigaidd, Frank, y bardd rhwystredig, yr academydd disglair a’r yfwr ymroddedig, ddim yn frwdfrydig iawn i gymryd Rita dan ei adain. Ond daw’r ddau i sylweddoli cymaint sydd ganddyn nhw i ddysgu oddi wrth ei gilydd. Bydd y gomedi ddoniol a chynnes hon yn swyno cynulleidfaoedd ledled Cymru. “Wrth wraidd y ddrama mae bod dynol sy’n awchu am rywbeth gwell, ac mae hynny’n brofiad sylfaenol a chyntefig.” 14+

£15/£12

15/05/2026 & 16/05/2026 am 19:30

Digwyddiadau i gyd.

Cysylltwch...


01685 722176 | swyddfasoar@merthyrtudful.org

Theatr Soar, Canolfan Soar, Pontmorlais, Merthyr Tudful, CF47 8UB

Lisbeth McLean, Prif Swyddog, lis@merthyrtudful.org
Eleri Walters, Swyddog Datblygu, eleri@merthyrtudful.cymru


Map