METAL SOAR


METAL SOAR

Mae Canolfan a Theatr Soar, Merthyr Tudful, gyda chefnogaeth Loteri’r Treftadaeth, wedi comisiynu’r cyfansoddwr David John Roche i greu darn ar gyfer yr organ bibau Conacher sydd wedi ei adnewyddu yn y Ganolfan.

Ymunwch â ni am première arbennig o’r cyfansoddiad a berfformir gan aelodau’r band roc De’Lour ynghyd â pherfformiadau gan fand ifanc o Ferthyr, Echdoriad a’r ddeuawd nu-metal o Ogledd Cymru, Celavi

 

Daw David John Roche yn wreiddiol o Lynebwy ac mae’n adnabyddus am greu cerddoriaeth uniongyrchol, penderfynol, uchel sydd wedi ei ddylanwadu’n gryf gan fetel trwm a’i gefndir Cymreig dosbarth gweithiol.

Mae gwaith David wedi cael ei ganmol am ei “o rym mynegiannol dwys” (Thomas Ades), a ddisgrifiwyd fel “gwych” (Adam Walton, BBC Introducing), ac wedi’i nodi fel “beiddgar, cyffrous a hardd” (Syr James Dyson). Ar y cyd â chyfres gyson o berfformiadau a chomisiynau rhyngwladol, mae ei gyfansoddiadau wedi'u darlledu, eu teledu, a'u hysgrifennu'n helaeth. Yn ddiweddar mae wedi cwblhau comisiynau ar gyfer Canolfan Gerdd Tanglewood, Sefydliad Diwylliannol Dinas Opera Tokyo, a Bro Morgannwg.

 

Mae Echdoriad yn fand o Ferthyr Tudful, sy’n cynnwys Arwen ar y delyn, Via ar y gitâr/llais, Josh ar y bass a Gwion ar y drymiau. Yn ôl y band: “hoffen ni gymysgu diwylliant Cymraeg efo cerddoriaeth newydd a modern, gyda chyfuniad o genres gwahanol. Mae creu awyrgylch yn bwysig i ni, ac rydym yn creu cerddoriaeth sy’n ceisio arddangos hynny.”

 

Mae’r band C E L A V I yn ddeuawd sy’n creu sŵn anthemig, unigryw nu-metal sy'n chwalu'r ffiniau ac wedi ei ddylanwadau fetal, goth, emo, diwydiannol, electro a roc. Gafodd eu hail sengl 'NEB ARALL' ei chwarae ar BBC Radio 1, a'i gynnwys ar restr olygyddol 'Breakthrough Rock' ar Amazon Music.

 

Mae’r organydd George Herbert o Fanceinion a bu’n ysgolor organ yng Ngholeg Sant Ioan, Caergrawnt cyn symud i Lundain ble mae’n un o organyddion Abaty Westminster ac yn Is Gyfarwyddwr Cerddoriaeth yn Hampton Court. Y llynedd bu iddo ennill cystadleuaeth organ rhyngwladol Gogledd Iwerddon ac mae’n creu enw iddo’i hun fel cyfeilydd, datgeinydd ac athro.

 

Cefnogir gan y Loteri Treftadaeth a Ty Cerdd

 

David John Roche:

https://www.davidjohnroche.com

 

C E V A L I

https://www.wearecelavi.com

£10 / £8

09/11/24 7:30pm

Digwyddiadau i gyd.

Cysylltwch...


01685 722176 | swyddfasoar@merthyrtudful.org

Theatr Soar, Canolfan Soar, Pontmorlais, Merthyr Tudful, CF47 8UB

Lisbeth McLean, Prif Swyddog, lis@merthyrtudful.org
Eleri Walters, Swyddog Datblygu, eleri@merthyrtudful.cymru


Map