Y Fenyw Mewn Du - Sesiynnau Adrodd Straeon - Storytelling Sessions


Y Fenyw Mewn Du - Sesiynnau Adrodd Straeon - Storytelling Sessions

Ydych chi’n ddysgwr Cymraeg neu’n rhywun sydd eisiau magu hyder I ddefnyddio’ch Gymraeg mewn

ffordd greadigol a hwyliog?

Mae Cymru yn wlad llawn chwedlau a straeon. Mae gan bob pentref a bro stori ysbryd, a phob tref

stori am y Tylwyth Teg.

Oes gennych chi stori am brofiadau arswydus y mae’n rhaid i chi ei rhannu?

I gyd-fynd â pherfformiadau’r Consortiwm Cymraeg o'r sioe theatr Y Fenyw Mewn Du, bydd Owen

Staton, storïwr proffesiynol yn eich helpu i adrodd eich hanes ac i rannu eich stori yn Gymraeg.

Byddwch yn cael eich annog i ddefnyddio eich Cymraeg drwy ddysgu i adrodd y chwedlau hyn yn

draddodiadol, yn union fel y chwedleuwyr gynt. Bydd y sesiwn hefyd yn gyfle i ddysgu am straeon a

chwedlau newydd o'ch ardal leol.

Mae croeso i siaradwyr Cymraeg o bob lefel, a bydd pawb yn cael eu cefnogi i ddefnyddio’r iaith

cymaint ag y dymunant.

Dewch i rannu eich straeon gyda ni. Byddai'r Fenyw mewn Du wrth ei bodd yn eu clywed.

0.00

9,16,23 /10/23 6-7pm

Digwyddiadau i gyd.

Cysylltwch...


01685 722176 | swyddfasoar@merthyrtudful.org

Theatr Soar, Canolfan Soar, Pontmorlais, Merthyr Tudful, CF47 8UB

Lisbeth McLean, Prif Swyddog, lis@merthyrtudful.org
Eleri Walters, Swyddog Datblygu, eleri@merthyrtudful.cymru


Map