Nos Wener Ebrill 21ain a nos Sadwrn Ebrill 22ain, bydd y grwp perfformwyr theatrig WELSH OF THE WEST END sydd gyda dros 18 miliwn o bobl wedi eu gwylio yn dod i Theatr Soar Merthyr.
Mae Welsh of the West End wedi mynd yn feiral, gan ddiddanu cynulleidfaoedd gyda fersiynau bythgofiadwy o glasuron sioeau cerdd. Maent wedi perfformio mewn lleoliadau eiconig fel y Royal Albert Hall a’r London Palladium, a diddanu cynulleidfa fyd eang yn rownd deledu byw, cyfres ITV, Britain’s Got Talent.
Y Grwp Welsh of the West End ar eu ffordd i Theatr Soar Merthyr.
Nos Wener Ebrill 21ain a nos Sadwrn Ebrill 22ain, bydd y grwp perfformwyr theatrig WELSH OF THE WEST END sydd gyda dros 18 miliwn o bobl wedi eu gwylio yn dod i Theatr Soar Merthyr.
Mae Welsh of the West End wedi mynd yn feiral, gan ddiddanu cynulleidfaoedd gyda fersiynau bythgofiadwy o glasuron sioeau cerdd. Maent wedi perfformio mewn lleoliadau eiconig fel y Royal Albert Hall a’r London Palladium, a diddanu cynulleidfa fyd eang yn rownd deledu byw, cyfres ITV, Britain’s Got Talent.
Yn 2022, perfformion hwn yn West End Live yn Sgwar Trafalgar, a nhw oedd prif berfformwyr Pride Cymru, yn cefnogi Michael Ball ac Alfie Boe ar eu taith haf, ac maent wedi gweithio gydag Undeb Rygbi Cymru wrth ddiddanu y gynulleidfa o 75,000 cyn gemau rhyngwladol. Mae’r grwp yn cynnwys perfformwyr o sioeau fel Les Miserables, Phantom of the Opera a Wicked; ac maent wedi ymddangos yn What’s on Stage, Official London Theatre a’r BBC.
Gwesteion ar gyfer cyngerdd nos Wenes y 21ain fydd CAST Performance Academy a’r gwesteion ar gyfer cyngerdd nos Sadwrn yr 22ain fydd Merthyr Performance Company.
Mae Tocynau ar gael nawr o Theatr Soar, rhif ffon 01685 722176
Theatr Soar,
Canolfan Soar,
Pontmorlais,
Merthyr Tudful,
CF47 8UB
Lisbeth McLean, Prif Swyddog, lis@merthyrtudful.org
Eleri Walters, Swyddog Datblygu, eleri@merthyrtudful.cymru