Iphegenia yn Sblot


Iphegenia yn Sblot

Gan Gary Owen

Cynhyrchiad newydd wedi’i gyfarwyddo gan Alice Eklund.

 

Gadewch i Effie eich tywys chi trwy strydoedd Caerdydd heddiw. Camwch i'w byd. Cymerwch olwg ar sut rydyn ni’n byw, drwy ei llygaid hi.
Mae bron i ddegawd ers i Iphigenia in Splott, drama ddirdynnol Gary Owen, ryfeddu’r byd: gan swyno cynulleidfaoedd ac adolygwyr fel ei gilydd, ennill gwobrau a dod yn llwyddiant ysgubol yn rhyngwladol.
Yn fwy perthnasol nag erioed, mae un o ddramâu pwysicaf hanes theatr Cymru yn dychwelyd yn 2024, gyda chymaint i’w ddweud am fywyd yng Nghymru heddiw. Daw cynhyrchiad newydd sbon pwerus Alice Eklund o'r addasiad newydd Cymraeg yma a'r clasur tanbaid yn fyw unwaith eto. Yn llawn emosiwn amrwd, empathi, tosturi a chalon, mae Iphigenia yn Sblot yn ysgytwad. Dyma’r ddrama sydd ei hangen ar bob un ohonom ar hyn o bryd.
Perfformiad yn y Gymraeg. Bydd capsiynau Saesneg ar gael ym mhob perfformiad.
Ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru
Mae'r cynhyrchiad hwn yn cynnwys iaith gref, cyfeiriadau rhywiol, themâu sensitif a golygfeydd a allai beri gofid i rai aelodau o'r gynulleidfa. 
Rhybudd manwl
Mae'r cynhyrchiad hwn yn cynnwys iaith gref, cyfeiriadau rhywiol, themâu sensitif gan gynnwys galar a cholled newydd-anedig, yn ogystal â golygfeydd a allai beri gofid i rai aelodau o'r gynulleidfa.
 

Cyffredinol £15 Consesiwn £12

19/09/24 - 20/09/24 7:30yn

Digwyddiadau i gyd.

Cysylltwch...


01685 722176 | swyddfasoar@merthyrtudful.org

Theatr Soar, Canolfan Soar, Pontmorlais, Merthyr Tudful, CF47 8UB

Lisbeth McLean, Prif Swyddog, lis@merthyrtudful.org
Eleri Walters, Swyddog Datblygu, eleri@merthyrtudful.cymru


Map